Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Gwyddonydd Biofeddygol Arbenigol
Gradd 6
Diolch am eich diddordeb mewn gweithio i Wasanaeth Gwaed Cymru (GGC) sy'n gyflogwr cyfle cyfartal ymroddedig. Mae GGC yn croesawu ceisiadau gan bobl sy'n rhannu ein gweledigaeth;
Bydd Ymddiriediolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cael ei chydnabod yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel sefydliad enwog o ragoriaeth mewn perthynas â gofal rhoddwyr a chleifion, addysg ac ymchwil.
ein gwerthoedd;
BYDD Atebol
BYDD Feiddgar
BYDD Ofalgar
BYDD Ddeinamig
ac a fydd yn ategu’r gweithwyr profiadol ac arbenigol sydd gennym ar hyn o bryd, sydd yn frwdfrydig dros weithio mewn sefydliad sydd â’r uchelgais i ddarparu gwasanaethau a gofal o'r radd flaenaf i'n cleifion.
Mae GGC yn hynod falch o'r rôl hanfodol mae'n ei chwarae ym maes gofal iechyd modern trwy geisio achub a thrawsnewid bywydau drwy haelioni rhoddwyr. Mae GGC yn le anhygoel i weithio a datblygu eich gyrfa ynddo. Mae ein staff gofalgar ac ysgogol yn dylunio, datblygu a chyflwyno gwelliannau trwy gyfrwng menter Cadwyn Gyflenwi 2020 (BSC2020), a fydd yn galluogi GGC i weithio tuag at ei weledigaeth o weithio gyda'n staff a phobl Cymru i gyflwyno gwasanaeth rhoi gwaed a bôn-gelloedd hawdd ei ddefnyddio, diogel a chynaliadwy.
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
TYMOR PENODOL
CYFNOD MAMOLAETH
Mae gan Wasanaeth Gwaed Cymru gyfle i Wyddonydd Biofeddygol Arbenigol sy’n gofrestredig gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal weithio yn y Labordy Gweithgynhyrchu a Dosbarthu. Rhaid i ymgeiswyr ar gyfer y swydd hon fod wedi cwblhau neu fod yn gweithio tuag at gymhwyster arbenigol (naill ai Diploma Arbenigol Sefydliad Gwyddoniaeth Fiomeddygol (IBMS) mewn Gwyddoniaeth Trallwyso ac Arfer Gweithgynhyrchu Da neu Dystysgrif Arbenigol BBTS i ymarfer). Bydd deiliad y swydd yn gweithio mewn tîm ac yn gyfrifol am weithgynhyrchu cydrannau gwaed sy'n addas ar gyfer trallwyso neu ddosbarthu cydrannau gwaed i ysbytai fel cwsmeriaid Mae hon yn swydd Cyfnod Penodol. Mae’r swydd a gynigir yn swydd cyfnod penodol am 10 mis i gyflenwi dros gyfnod mamolaeth. Mae'r rôl hon yn cynnwys y gofyniad i gymryd rhan mewn rota ar alwad 24/7.
|
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd y rôl yn yr Adran Weithgynhyrchu a Dosbarthu a bydd yn cynnwys gweithio fel arweinydd tîm i sicrhau cynhyrchu cydrannau gwaed a fydd yn cael eu dosbarthu ledled Cymru.
Gall dyletswyddau hefyd gwmpasu dosbarthiad cydrannau gwaed i ysbytai fel cwsmeriaid.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Yma yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, rydym yn hynod falch o'r gwasanaethau arbenigol a ddarparwn ledled Cymru yn ein Canolfan Ganser Felindre arloesol ac ein Gwasanaeth Gwaed Cymru gwobrwyedig. Yn ogystal ag arbenigedd ein swyddogaethau corfforaethol sy'n dod â'r ddwy adran at ei gilydd. Rydym hefyd yn ffodus i gynnal Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Thechnoleg Iechyd Cymru ac rydym wedi datblygu gwaith partneriaeth cryf gyda'r gwasanaethau arbenigol hyn.
Wedi'i sefydlu ym 1999, mae gan yr Ymddiriedolaeth weithlu ymroddedig sy'n ymdrechu'n barhaus i ddarparu egwyddorion allweddol gofal iechyd sy'n seiliedig ar Werth drwy amrywiaeth eang o rolau. Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y cymunedau rydym yn eu cefnogi ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol i barhau i wella'r gwasanaethau a ddarparwn. Rydym yn ymdrechu i gynnal ein gwerthoedd craidd ym mhopeth a wnawn drwy fod yn; atebol, beiddgar, gofalgar a deinamig, a sicrhau'r gofal gorau posibl i'n cleifion a'n rhoddwyr.
Os ydych am weithio i sefydliad sy'n ymfalchïo mewn gwneud gwahaniaeth go iawn ac sy'n cynnig cyfleoedd gyrfa cyffrous, yna Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yw'r lle i chi.
Ewch i'n gwefan i gael rhagor o wybodaeth: https://velindre.nhs.wales/
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Qualifications
Meini prawf hanfodol
- BSc Anrhydedd mewn Gwyddorau Biofeddygol neu radd anrhydedd arall a gymeradwywyd gan IBMS ar gyfer cofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Gofal ac Iechyd
- Wedi cofrestru gyda HCPC
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o fod wedi gweithio mewn labordy neu mewn amgylchedd gweithgynhyrchu
- Profiad Goruchwylio
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i weithio'n effeithiol fel rhan o dîm neu ar eich pen eich hun
- Sgiliau trefnu da
- Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol ar lafar ac mewn fformat ysgrifenedig
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Stephen Pearce
- Teitl y swydd
- Head of Manufacturing & Distribution
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01443 622058
Rhestr swyddi gyda Gwasanaeth Gwaed Cumru Gyfan yn Gwasanaethau gwyddor iechyd neu bob sector