Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Deintyddiaeth Gofal Arbennig
Gradd
Meddygol a Deintyddol y GIG: Deintydd Cyflogedig - C
Contract
Parhaol
Oriau
  • Rhan-amser
  • Gweithio hyblyg
3.75 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
Adverts - 6232981
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Brenhinol Alexandra
Tref
Y Rhyl
Cyflog
£89,174 - £102,479 NA
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
21/05/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Arbenigwr Deintyddol (Deintyddiaeth Gofal Arbennig)

Meddygol a Deintyddol y GIG: Deintydd Cyflogedig - C

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

HYSBYSEB

Rydym yn edrych i benodi Arbenigwr mewn Deintyddiaeth Gofal Arbennig (Band C)

Cyflog Band  C - £89,174 - £102,479

Wedi ei leoli:  Canolfan Ddeintyddol Alexandra, Rhyl

3.75 oriau'r wythnos sy'n cyfateb i 2 ddiwrnod y mis

Prif ddyletswyddau'r swydd

Rydym yn edrych i recriwtio chwaraewyr tîm sydd yn frwdfrydig, hyblyg,ag yn llawn cymhelliad gyda sgiliau cyfathrebu ardderchog.

I ddarparu gofal arbennig mewn disgyblaeth clinigol.

I berfformio dyletswyddau fel a nodwyd i gyfarfod anghenion y gwasanaeth.

I ddatblygu a chynnal gwasanaethau wedi ei ddylunio i adnabod cleifion sydd angen triniaeth o fewn yr arbenigedd.

I arwain mewn maes sydd wedi ei nodi o fewn y gwasanaeth fel bo angen. 

I ddarparu hyfforddiant a/neu goruchwyliaeth sydd yn gysylltiedig â disgyblaethau arbenigol a pherthynol i ystod o staff.

Mae Disgrifiad Swydd Llawn a Manyleb y Person i'w gweld yn yr adran dogfennau ychwanegol.

Gweithio i'n sefydliad

Mae rhan fwyaf o’r staff wedi ei hyfforddi mewn technegau mewnanadliad tawelyddu.  Mae’r gwasanaeth yma ar gael bron ymhob safle, yn cael ei gynnig gan ddeintyddion a therapyddion. Mae gwasanaeth ymdaweliad mewnwythiennol hefyd ar gael, ac mae Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol yn gweithredu gwasanaeth anesthesia cyffredinol yn tair Ardal yr Ysbytai Gyffredinol.Rydym yn cael cefnogaeth gan ymgynghorydd Bediatrig Deintyddol Ysbyty Alder Hey.

Ar hyn o bryd rydym yn croesawu tri DCT(1) pob blwyddyn ac mae gennym safle i arbenigwr hyfforddiant  mewn Deintyddiaeth Gofal Arbennig.  

Mae gwasanaethau estynedig yn cynnwys Gwasanaeth Haen Canolog Llawfeddygaeth Dant- gorfannol a darpariaeth cefnogol (DGA) i tîm Canser Pen a Gwddf (MDT).  Darperir hyfforddiant i Therapyddion mewn Mynediad Uniongyrchol ac Mewnanadliad Tawelyddu,ac rydym wedi ymrwymo i ehangu modelau medr gymysgedd.  Mae nifer o raglenni ataliol sydd yn hyrwyddo iechyd geneuol yn gweithredu megis: Cynllun Gwên (Rhaglen Gymru gyfan i dargedu plant mewn ardaloedd difreintiedig yng Nghymru); Gwên am Byth (Rhaglen Cartrefi Gofal); Gofal y Geg mewn Ysbytai (1000 o fywydau) a rhaglen plant ac oedolion sydd ag anabledd dysg.

Buddion

  • Lwfans adleoli ar gael
  • Cennad absenoldeb i astudio wedi ei dalu
  • Lwfans Hyfforddi Casgliadwy Blynyddol 
  • Cynllun prydlesu car yn weithredol
  • Fe delir am Absenoldeb Blynyddol

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Mae Disgrifiad Swydd Llawn a Manyleb y Person wedi'i gynnwys gyda phob dogfen bellach.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • • Wedi cofrestru yn llawn â’r GDC (Cyngor Deintyddol Cyffredinol)
  • • Bagloriaeth mewn llawdriniaeth ddeintyddol neu gyfwerth
  • • Wedi cofrestru ar restr arbenigedd y GDC yn berthnasol i’r swydd
  • • Prawf o gynnal datblygiad proffesiynol parhaus ar ôl graddio
  • • Tystysgrif Hyfforddiant Amddiffyn plant ac oedolion (POVA)*
  • • Tystysgrif IRMER/ diogelu ymbelydriad
Meini prawf dymunol
  • • Cymhwyster ôl-radd mewn sgil glinigol berthnasol
  • • Aelod o sefydliad broffesiynol / Cymdeithas ddysgedig yn berthnasol i’r sgil glinegol
  • • Cymhwyster mewn addysg glinigol / cymhwyster dysgu
  • • Cymhwyster rheoli
  • • ECDL neu gyfwerth

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • • Profiad sylweddol o’r CDS,GDS a/neu HDS
  • • Profiad rheoli poen a pryder ag sy’n briodol i’r arbenigedd
  • • Hanes profedig yn y maes arbenigo
  • • Profiad rheoli risg
  • • Profiad o bwyllgorau
  • • Profiad mewn dysgu, hyfforddiant, goruchwylio a mentora staff
  • • Cynhyrchu adroddiadau a/neu bapurau
  • • Adolygiad cymheiriaid ac archwiliad clinigol
Meini prawf dymunol
  • • Profiad mewn disgyblaethau deintyddol eraill
  • • GIG, GDS,neu profiad gofal deintyddiaeth sylfaenol yn y DU
  • • Profiad rheoli
  • • Profiad Ymchwil
  • • • Profiad gweithio gyda therapydd Orthodonteg, therapydd deintyddol/ hylenyddion deintyddol
  • • Aelodaeth o gorff proffesiynol perthnasol

Rhinweddau Personol

Meini prawf hanfodol
  • • Sgiliau sefydliadol ac arweinyddol: gallu i gyfathrebu â’r tîm drwy ei gymell a’i gefnogi
  • • Sgiliau cyfrifiadurol
  • • Gallu sefydlu gwasanaeth clinigol ar draws ardal a chynhyrchu adroddiadau
  • • Gallu cynllunio’n strategol
  • • Hunangymhelliant ac yn gallu bodloni terfynau amser
  • • Gallu blaenoriaethu baich gwaith a’i drefnu
  • • Sgiliau rhyngbersonol da gyda cleifion, gofalwyr, a cydweithwyr o ddisgyblaethau eraill
  • • Abl i arwain yn glinigol, hwyluso arloesiadau newydd a chynorthwyo gyda rheoli newid
Meini prawf dymunol
  • • Gallu i gyfathrebu theori a meithrin sgiliau mewn eraill
  • • Gwybodaeth o becynnau meddalwedd perthnasol
  • • Profiad ymchwil a/neu diddordeb mewn ymchwil sy’n seiliedig ar y gwasanaeth
  • • Gwybodaeth a profiad o’r fframwaith ariannol sy’n berthnasol i’r arbenigedd

Addasrwydd Personol

Meini prawf hanfodol
  • • Hyblyg a bodlon i ymrwymo i sicrhau canlyniadau a chwrdd a therfynau amser
  • • Gosod safonau uchel a chymhelliant i’w cyflawni
  • • Yn ymwybodol o’ch cyfyngiadau eich hun
  • • Gallu gweithio yn annibynnol
  • • Ymagwedd hyblyg at flaenoriaethau a systemau gwaith cyfnewidiol
Meini prawf dymunol
  • • Gradd uchel o broffesiynoldeb sy’n arddangosadwy drwy gefnogaeth cyfoedion a rheolwyr
  • • Gallu/hyder i werthuso eraill

Cyffredinol

Meini prawf hanfodol
  • • • Yn abl i deithio i wahanol fangre ar draws Gogledd Cymru fel bo angen mewn ffasiwn amserol
  • • Gwerthusiad o faterion amrywiaeth ddiwylliannol a chydraddoldeb *
Meini prawf dymunol
  • • Rhuglder neu wybodaeth da o ran y Gymraeg *
  • • Rhuglder mewn iaith fodern tramor (arwahan i Saesneg neu Gymraeg)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Jacqueline Sandra Sandham
Teitl y swydd
Clinical Director of NWCDS
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 856231
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg