Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Ymarferydd yr Adran Lawdriniaethau Banc
Gradd
Band 5
Contract
Banc
Oriau
  • Gweithio hyblyg
  • Arall
Bancio yn ol yr angen
Cyfeirnod y swydd
100-BANK-ODP-2024-D
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ledled y Bwrdd Iechyd
Tref
Ledled y Bwrdd Iechyd
Cyflog
£28,407 - £34,581 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
30/05/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Ymarferydd Theatr (Anestheteg, Adfer, Sgrybs) – BANC

Band 5

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Rydym yn chwilio am Ymarferydd Theatr (Cronfa) brwdfrydig i weithio ar y gronfa yn ein pedwar prif ysbyty.

Mae deiliad y swydd yn rhan o'r tîm clinigol a ddarperir i sicrhau y darperir gwasanaeth effeithlon o safon i gleifion.

Disgwylir i ddeiliad y swydd weithio'n agos gyda phob disgyblaeth i sicrhau bod safonau uchel yn cael eu hyrwyddo ar gyfer yr holl gleifion y mae arnynt angen gofal amdriniaethol, yn dilyn hyfforddiant priodol sy'n cwmpasu amrywiaeth o arbenigeddau.

Disgwylir i ddeiliad y swydd gyflawni pob math o ofal perthnasol, a bydd disgwyl iddo arddangos gweithdrefnau a goruchwylio staff iau/heb gymhwyso.

Prif ddyletswyddau'r swydd

•    Gweithio'n agos gyda meddygon ymgynghorol blaenllaw a gweithwyr proffesiynol o'r un anian sy'n parchu ac yn gwerthfawrogi eich cyfraniad

•    Profi llwyth achosion amrywiol a thechnoleg, cyfarpar a chyfleusterau o'r radd flaenaf

•    Darparu gofal a phrofiadau o ansawdd uchel i gleifion, sydd bob amser yn glinigol effeithiol ac yn seiliedig ar dystiolaeth

•    Cydweithio fel rhan o dîm ehangach yr ysbyty i sicrhau parhad yng ngofal y claf

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.

 

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;

Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;

48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;

Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.

https://fb.watch/hzQjE8HzTN/

 

Manyleb y person

Qualifications and Knowledge

Meini prawf hanfodol
  • Cofrestriad gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) neu'r Cyngor Proffesiynau Iechyd (HCPC)
  • Cymhwyster Nyrs Gyffredinol Gofrestredig (RGN) neu Ymarferydd Adran Lawdriniaethau (ODP)
  • Ymrwymiad i ymgymryd a chwrs astudio priodol
  • Yn meddu ar wybodaeth am yr holl arbenigeddau llawfeddygol yn yr adran lawdriniaethau, ynghyd a dealltwriaeth ohonynt.
  • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
Meini prawf dymunol
  • Diploma mewn ymarfer amdriniaethol theatrau

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Tystiolaeth o brofiad o ddefnyddio cyfarpar a deunyddiau
Meini prawf dymunol
  • Profiad ol-gofrestredig
  • Profiad perthnasol o bob arbenigedd – cyffredinol/orthopedig/gynaecoleg/wroleg/trawma
  • Profiad o oruchwylio/addysgu myfyrwyr, staff cymorth ac eraill

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Stonewall Diversity ChampionDisability confident employerStonewall equality policy. Equality and justice for lesbians, gay men, bisexual and trans people.Carer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Julie Rogers
Teitl y swydd
Senior Workforce Manager Bank & E-Rostering
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
0300 303 6145
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg