Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc Arbenigol
Gradd
Gradd 8a/ Atodiad 21
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
37.5 awr yr wythnos (Oriau llawn a rhan amser yn cael eu hystyried)
Cyfeirnod y swydd
100-PST012-0324-C
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Canolfan Preseli, Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg
Tref
Hwlffordd
Cyflog
£51,706 - £58,210 y flwyddyn (pro rata os rhan-amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
02/06/2024 23:59
Dyddiad y cyfweliad
12/06/2024

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Seicolegydd Clinigol (S-CAMHS)

Gradd 8a/ Atodiad 21

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Rydym yn awyddus i recriwtio Seicolegydd Clinigol Band 8a llawn-amser i un o’n timau ardal S-CAMHS prysur a chyfeillgar ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. 

Mae'r tîm ardal yn cwmpasu Sir Benfro ac mae'r swydd wedi'i lleoli yng Nghanolfan Preseli, Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg. Mae'r swydd yn cael ei hysbysebu ar Fand 8a. Fodd bynnag, anogir ymgeiswyr nad ydynt ar hyn o bryd yn bodloni'r gofynion o ran y sgiliau a'r cymwyseddau ar gyfer y rôl Band 8a, i wneud cais ac, os byddant yn llwyddiannus, fe'u penodir yn unol â Threfniadau'r Agenda ar gyfer Newid mewn perthynas â Thaliadau a Bandio Hyfforddeion (Atodiad 21), a'u cefnogi gan gynllun datblygu am ddwy flynedd. Gellir ystyried rhoi Atodiad 21 ar waith yn achos seicolegwyr newydd gymhwyso, ynghyd â threfniadau i ddiogelu'r cyflog ar Fand 7, hyd nes y bydd y cymwyseddau yn cael eu bodloni ar gyfer 8a, a disgwylir i hynny gael ei gyflawni cyn pen dwy flynedd. Ar ôl llwyddo i gwblhau'r cynllun datblygu, a meithrin y sgiliau a'r cymwyseddau ar gyfer y rôl mewn modd llwyddiannus, bydd deiliad y swydd yn cael ei dalu ar Fand 8a (pwynt isaf y raddfa). Darperir goruchwyliaeth a chymorth parhaus er mwyn datblygu'r ymarferydd i'r rôl Band 8a. Bydd hwn yn gyfle rhagorol i seicolegydd newydd gymhwyso sy'n dymuno datblygu ei yrfa.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am ddarparu Seicoleg yn y tîm 
amlddisgyblaethol, yn ogystal â goruchwylio Seicolegwyr Cynorthwyol. Bydd yn rhan o dîm amlddisgyblaethol cyfeillgar sy'n rhoi gwerth ar ei gyd-weithwyr sy'n gweithio ym maes Seicoleg. 

Bydd y dyletswyddau clinigol yn cynnwys cyflawni gwaith sy'n ymwneud â Dewis a Phartneriaeth, a gwaith Penodol, o fewn fframwaith Mesur Iechyd Meddwl (2010). Anogir diddordebau arbennig pan fo hynny'n bosibl, ac mae yna gyfleoedd rheolaidd i fod yn rhan o ddatblygiadau newydd o ran y gwasanaeth a hyfforddiant. Mae yna gysylltiadau cryf â'n gwasanaethau arbenigol o fewn S-CAMHS, e.e. y Gwasanaeth Therapi Ymddygiad 
Dialectig (DBT), y Gwasanaeth Anhwylderau Bwyta, a'r Gwasanaeth Fforensig. Mae gennym hefyd gysylltiadau cryf â chwrs hyfforddi Doethuriaeth mewn Seicoleg Glinigol De Cymru. 

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth â’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy: 

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
  • Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
  • 48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;

• Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Mae'r swydd yn cael ei hysbysebu ar Fand 8a. Fodd bynnag, anogir ymgeiswyr nad ydynt ar hyn o bryd yn bodloni'r gofynion o ran y sgiliau a'r cymwyseddau ar gyfer y rôl Band 8a, i wneud cais ac, os byddant yn llwyddiannus, fe'u penodir yn unol â Threfniadau'r Agenda ar gyfer Newid mewn perthynas â Thaliadau a Bandio Hyfforddeion (Atodiad 21), a'u cefnogi gan gynllun datblygu am ddwy flynedd. Gellir ystyried rhoi Atodiad 21 ar waith yn achos seicolegwyr newydd gymhwyso, ynghyd â threfniadau i ddiogelu'r cyflog ar Fand 7, hyd nes y bydd y cymwyseddau yn cael eu
bodloni ar gyfer 8a, a disgwylir i hynny gael ei gyflawni cyn pen dwy flynedd. Ar ôl llwyddo i gwblhau'r cynllun datblygu, a meithrin y sgiliau a'r cymwyseddau ar gyfer y rôl mewn modd llwyddiannus, bydd deiliad y swydd yn cael ei dalu ar Fand 8a (pwynt isaf y raddfa). Darperir goruchwyliaeth a chymorth parhaus er mwyn datblygu'r ymarferydd i'r rôl Band 8a. Bydd hwn yn gyfle rhagorol i seicolegydd newydd gymhwyso sy'n dymuno datblygu ei yrfa.

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar 12/06/2024

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Ymarferydd Seicoleg Cofrestredig gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofa
  • Hyfforddiant ar lefel doethuriaeth mewn seicoleg glinigol neu gwnsela, gan gynnwys seicopatholeg, dau neu fwy o therapïau seicolegol gwahanol, a seicoleg ddatblygiadol hyd oes fel y'u hachredir gan Gymdeithas Seicolegol Prydain
  • Gwybodaeth am seicometreg, gweinyddiaeth briodol a chyfyngiadau.
  • Hyfforddiant ôl-gymhwyso mewn o leiaf un maes sy'n berthnasol i'r swydd
  • Hyfforddiant a phrofiad arbenigol ychwanegol
Meini prawf dymunol
  • Hyfforddiant ôl-gymhwyso a chymwysterau mewn methodoleg ymchwil, hyfforddiant staff a/neu feysydd eraill seicoleg gymhwyso

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o asesiadau seicolegol arbenigol ac o drin cleientiaid ledled yr amrywiaeth lawn o leoliadau gofal, gan gynnwys cleifion allanol, y gymuned, gofal sylfaenol, a chleifion mewnol
  • Profiad o asesiadau seicolegol arbenigol (ôl-gymhwyso) sy'n ymgorffori seicometreg ac asesu gwybyddol
  • Profiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc.
  • Profiad o weithio gydag amrywiaeth eang o grwpiau cleientiaid ar hyd llwybr bywyd, gyda'r bobl hyn yn amlygu problemau sy'n adlewyrchu'r ystod lawn o ddifrifoldeb clinigol
  • Profiad ôl-gymhwyso o weithio gyda phlant a phobl ifanc a/neu iechyd meddwl
Meini prawf dymunol
  • Profiad ôl-gymhwyso o weithio gyda phlant a phobl ifanc.
  • Profiad o addysgu, hyfforddi a goruchwylio
  • Profiad o gymhwyso seicoleg glinigol mewn cyd-destunau diwylliannol gwahanol

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Stonewall Diversity ChampionDisability confident employerStonewall equality policy. Equality and justice for lesbians, gay men, bisexual and trans people.Carer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Andrea Mowthorpe
Teitl y swydd
Lead for Psychology - SCAMHS
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01437 773774
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

 

 

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg