Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Uwch-fferyllydd – Arweinydd Mentora Clinigol
Gradd 8b
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae hon yn swydd cyfnod penodol/secondiad tan 31/03/2026.
Os ydych chi'n gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am y swydd hon fel secondiad, mae angen cytundeb ar gyfer yr secondiad gan eich rheolwr presennol cyn gwneud cais.
Yn chwilio am gyfle cyffrous i fod yn rhan o weledigaeth uchelgeisiol ar gyfer gwasanaethau fferyllol ledled Gorllewin Cymru?
Mae hon yn adeg gyffrous i ymuno â'n tîm wrth i’r proffesiwn fferylliaeth ddatblygu rhagor ar ei set sgiliau sy’n canolbwyntio ar y claf tuag at gofrestru presgripsiynwyr fferyllol o’r diwrnod cyntaf ar ôl iddynt gymhwyso, ac wrth i’r proffesiwn weithredu i ymgorffori presgripsiynu yn rhan reolaidd o ymyriadau clinigol ledled pob un o'r sectorau sy'n delio â chleifion.
A ydych yn glinigydd cymwys sy’n gallu defnyddio eich set sgiliau clinigol presennol i fentora a datblygu staff fferyllol i fod yn ddarparwyr gofal sylfaenol rheng flaen yn y dyfodol? Os gallwch weithio mewn diwylliant sefydliadol sy’n barod i godi llais a herio arferion presennol, a bod gennych uchelgais o ran moderneiddio’r modd y mae gwasanaethau fferyllol yn cael eu darparu i wella’r ffordd y mae cleifion yn cael mynediad at eu gofal, yna mae gennym y cyfle delfrydol i chi ymuno â'n uwch-dîm.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Darparu arweinyddiaeth a mentoriaeth glinigol yn ystod y broses o ddatblygu gwasanaethau fferyllol gofal sylfaenol y Bwrdd Iechyd trwy gefnogi, gwella a hybu'r gwaith o gyflawni'r holl rolau fferyllol mewn practisau.
Bod yn atebol am ddatblygu a gwella gwasanaethau fferyllol gofal sylfaenol ar gyfer cleifion, gan arwain y gwaith o esblygu'r modd y darperir y gwasanaethau presennol, gan ganolbwyntio ar fodelau darparu darbodus sy’n seiliedig ar werth.
Sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i gleifion trwy ofalu bod meddyginiaeth yn cael ei rhagnodi yn unol â’r canllawiau presennol.
Amlygu'r lefel uchaf o fewnbwn fferylliaeth glinigol o ran rheoli cleifion trwy eich ymarfer eich hun a'ch gwaith o fentora eraill i'r tîm amlddisgyblaethol gofal sylfaenol, gan ysgogi'r ymwybyddiaeth o gyfranogiad clinigol fferyllol sy'n canolbwyntio ar y claf a'i symud yn ei blaen.
Casglu gwybodaeth am y gwaith y mae'r rôl hon yn ymgymryd ag ef; i ddangos yn lleol, ar lefel genedlaethol, ac i'w gyhoeddi, y modd y gall gwaith fferyllol darbodus yn y tîm gofal sylfaenol gyflawni canlyniadau buddiol i gleifion unigol yn ogystal â’r economi iechyd ehangach.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Os oes gennych y symbyliad i feithrin diwylliant o welliant parhaus i chi eich hun ac i eraill, a bod gennych yr ysgogiad i sicrhau bod fferylliaeth ar flaen y gad o ran darparu gofal cleifion o ansawdd uchel, yna Hywel Dda yw’r lle perffaith i chi gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa.
Rhoddir ystyriaeth i geisiadau i weithio'n llawn-amser, yn rhan-amser ac i rannu swydd yn achos y rôl hon.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 07/06/2024.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd Meistr mewn Fferylliaeth neu gymhwyster cyfatebol
- MSC/Diploma Ôl-raddedig mewn Fferylliaeth Glinigol, neu gymhwyster cyfatebol
- Yn gofrestredig gyda'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol
- Presgripsiynydd Annibynnol
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster Addysgu neu Reoli ôl-raddedig cydnabyddedig
- Cymhwyster ymchwil ôl-raddedig cydnabyddedig
- Yn aelod o'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol
- Yn aelod o Gyfadran y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol ar lefel AS11
- Goruchwyliwr dynodedig ar gyfer cyrsiau sylfaen achrededig
- Tiwtor diploma fferylliaeth achrededig
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ôl-raddedig sylweddol o fod yn fferyllydd ar draws sawl disgyblaeth ac yn y sector gofal sylfaenol
- Profiad helaeth o fynd ati'n annibynnol i reoli anghenion carfan cleifion o ran meddyginiaeth er mwyn gwella canlyniadau, gan gynnwys defnyddio presgripsiynu ar draws sawl maes clefyd
- Ehangu cymhwysedd o ran presgripsiynu mewn modd diogel ac amlwg i ddarparu gofal cleifion ar draws sawl maes clefyd
- Profiad helaeth o addysgu a/neu ddarlithio ar lefel ôl-raddedig ac israddedig
- Profiad helaeth o ddatblygu, gweithredu a gwerthuso rhaglenni addysgu
- Profiad o archwilio clinigol, gwella'r gwasanaeth, ymchwil ymarferol, a gweithredu gweithdrefnau a phrotocolau
- Gwybodaeth am gynlluniau strategol cyfredol ar gyfer gwasanaethau/datblygu fferyllol
- Y gallu i weithio'n gytûn gyda thîm helaeth er gwaethaf gwahaniaethau posibl
- Dealltwriaeth dda o bolisïau adnoddau dynol a deddfwriaeth cyflogaeth er mwyn gallu recriwtio a rheoli staff
- Profiad profedig o reoli newid, ynghyd â phrofiad o werthuso
- Rheolaeth effeithiol ar staff, a gwerthuso staff
Meini prawf dymunol
- Profiad o ymchwil ymarferol
- Profiad o Hyfforddiant ac Addysg ar draws lleoliadau gofal iechyd
- Profiad o addysgu, asesu a gwerthuso staff/myfyrwyr gofal iechyd eraill
- Wedi cyhoeddi gwaith mewn cyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid
- Wedi sefydlu partneriaethau â Sefydliadau Addysg Uwch
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg ( Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Owain Williams
- Teitl y swydd
- Lead Pharmacist for Primary Care
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01554 899038
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch hefyd â Robin Benton (Fferyllydd Arweiniol Addysg a Hyfforddiant): [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector