Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Swyddog Cymorth Prosiectau
Gradd 4
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn chwilio am yr ymgeisydd iawn i ymuno â thîm Swyddfa'r Rhaglen Drawsnewid.
Byddwch yn darparu cymorth gweinyddol i ystod eang o brosiectau Trawsnewid a hefyd i aelodau tîm yn y Gyfarwyddiaeth Strategaeth a Chynllunio. Bydd deiliad y swydd yn chwarae rhan bwysig wrth drefnu a gwasanaethu cyfarfodydd, gan sicrhau bod prosiectau a rhaglenni yn cael eu rhedeg mewn modd amserol a chydlynol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddarparu cymorth prosiect cynhwysfawr i Swyddfa'r Rhaglen Drawsnewid, a bydd yn dangos rhywfaint o flaengaredd a'r gallu i drefnu ei lwyth gwaith o ddydd i ddydd yn ogystal â gwaith rhaglenni cyflawni Strategaeth Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach.
Cefnogi cydweithio ledled Cyfarwyddiaethau, y Bwrdd Iechyd, ac â rhanddeiliaid allweddol prosiectau, a hynny i sicrhau y deallir, yr adolygir ac y gweithredir y gwaith o gyflawni newid i wasanaethau yn ogystal â chynlluniau cyflawni prosiectau.
Cefnogi'r gwaith o ddatblygu a chyflawni trefniadau cadarn ar gyfer y prosiectau i sicrhau y gweithredir ar y materion a godir yng nghyfarfodydd grwpiau'r rhaglenni/prosiectau a/neu fod y materion hynny'n cael eu hadrodd yn ôl i'r uwch-swyddogion priodol sy'n cefnogi'r prosiect/rhaglen.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 07/06/2024.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Lefel III neu brofiad cyfwerth amlwg o deipio a phrosesu geiriau
- Profiad o weithio mewn amgylchedd gweinyddol/swyddfa
- Gwybodaeth a sgiliau rhagorol mewn perthynas ag Excel, PowerPoint a Word
- Gwybodaeth am brosesau rheoli prosiectau a therminoleg cynllunio gofal iechyd
Meini prawf dymunol
- Lefel III neu brofiad cyfwerth amlwg o deipio a phrosesu geiriau
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio mewn amgylchedd cymhleth, prysur
- Profiad o ddefnyddio pecynnau Microsoft Office [Excel, Word, PowerPoint, Access, cyhoeddi bwrdd gwaith ac e-bost]
- Profiad o ddefnyddio rhaglenni Microsoft Office newydd megis Teams a Planner
- Profiad o sefydlu taenlenni a chronfeydd data
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Alex Martin
- Teitl y swydd
- Principal Programme Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector