Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Cynorthwyydd Cyfrifon
Band 4
Trosolwg o'r swydd
Cefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau Rheolaeth Ariannol cadarn i fodloni'r agwedd hon ar ddyletswyddau ariannol y Bwrdd Iechyd. Dadansoddi ac adrodd ar incwm a gwariant i ddeiliaid y gyllideb a'r uwch-staff cyllid. Cyfrannu at lunio adroddiadau ariannol misol, monitro ffurflenni,
cyfrifon blynyddol a gosod cyllidebau.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael i unigolyn brwdfrydig, llawn cymhelliant a medrus iawn ymuno a'r Tîm Cyfrifyddu Rheoli. Mae'r swydd hon yn darparu cymorth uniongyrchol i'r Uwchgynorthwywyr Cyfrifyddu, a bydd hefyd yn cefnogi'r timau Partneriaeth Busnes i ddarparu gwybodaeth reoli ariannol gref, strategol ac o ansawdd uchel, cymorth busnes a chymorth ariannol sy'n canolbwyntio ar y cwsmer ar gyfer adrannau'r Bwrdd Iechyd.
Byddwch yn feddyliwr beirniadol sy'n meddu ar sgiliau datrys problemau cadarn, sy'n rhoi sylw trylwyr i fanylion ac sydd a'r gallu i ddod yn gyfarwydd a gwybodaeth newydd yn gyflym.
Yn ddelfrydol, byddai'r ymgeiswyr yn astudio ar gyfer cymhwyster y Gymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu (AAT) neu CCAB/Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli (CIMA), neu'n meddu ar brofiad perthnasol sylweddol.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth â’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
• Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
• Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
• 48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
• Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 06/06/2024
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- 5 TGAU i gynnwys Mathemateg
- Cymwysterau Safon Uwch neu gyfwerth
- AAT Technician LevelLefel Technegydd AAT
Meini prawf dymunol
- Yn astudio ar gyfer cymhwyster AAT, CCAB llawn neu gymhwyster cyfatebol, neu'n rhannol gymwys
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad blaenorol o Gyfrifon
Meini prawf dymunol
- Profiad o'r systemau Oracle
- Profiad yn y GIG
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg Lefel 1
Other
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol
- Ymagwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Lynne Jones
- Teitl y swydd
- Finance Business Partner
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 248613
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector