Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Iechyd Meddwl
Gradd
Gradd 6
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
Mae oriau llawn a rhan amser amrywiol ar gael
Cyfeirnod y swydd
100-NMR159-0524
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Canolfan Adnoddu Gorwelion
Tref
Aberystwyth
Cyflog
£35,922 - £43,257 y flwyddyn (pro rata os yn rhan amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
20/05/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Nyrs Iechyd Meddwl Cymunedol

Gradd 6

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Ar hyn o bryd mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn dymuno recriwtio Nyrs Iechyd Meddwl Gymunedol lawn-amser i ymuno â'r Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol a leolir yng Nghanolfan Adnoddau Gorwelion, Aberystwyth.

Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i weithio mewn amgylchedd gwasanaeth diddorol sy'n datblygu. Byddwch yn cael tipyn o gyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a datblygiad proffesiynol.

Mae ein gwasanaethau'n defnyddio dull asesu ac adfer, lle mae pobl yn cael 
mynediad at wasanaethau iechyd meddwl eilaidd ar gyfer salwch meddwl difrifol a pharhaus.

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am asesu anghenion gofal, datblygu rhaglenni gofal, a gweithredu a gwerthuso'r rhaglenni gofal hyn ar gyfer llwyth achosion clinigol diffiniedig, gan gynnwys rôl Cydgysylltydd Gofal yn y broses o Gynllunio Gofal a Thriniaeth o dan Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.

Mae'n ofynnol i ddeiliad y swydd weithio heb unrhyw oruchwyliaeth uniongyrchol ar gyfer ei lwyth achosion dirprwyedig. Bydd gan ddeiliad y swydd sgiliau cyfathrebu effeithiol, a bydd yn meithrin perthnasoedd gweithio cadarnhaol ymhlith yr holl weithwyr gofal iechyd proffesiynol a'r asiantaethau statudol a gwirfoddol. Bydd yn cynnal prosesau cyfathrebu da ar draws yr holl ffiniau.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol Gorwelion yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, blaengar sydd ag agwedd gadarnhaol at reoli newid, ac y bydd ei brif ddyletswyddau’n cynnwys:

Mabwysiadu dull systematig o ofalu am bob claf, gan ysgwyddo'r cyfrifoldeb am bob cam mewn perthynas ag asesu, cynllunio, gweithredu a gwerthuso gofal cleifion, a gweithio’n benodol yn unol â gofynion Mesur Iechyd Meddwl Cymru.

Rheoli llwyth achosion dirprwyedig.

Cyfranogi trwy fod yn aelod gweithgar o'r Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol, a chysylltu mewn ag asiantaethau a thimau eraill yn ôl y gofyn.

Cydnabod cyfranogiad gofalwyr a darparu a nodi cymorth iddynt fel y bo'n briodol.

Cymryd rhan yn narpariaeth y Swyddog ar Ddyletswydd.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.

Cynhelir y cyfweliadau ar 03/06/2024.

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;

Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;

48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;

Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.

https://fb.watch/hzQjE8HzTN/

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Nyrs Iechyd Meddwl Gofrestredig
  • Addysg ôl-sylfaenol yn y maes ymarfer hyd at lefel diploma ôl-raddedig
  • Profiad ôl-gofrestredig
Meini prawf dymunol
  • Graddau perthnasol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Ystod eang o brofiad mewn lleoliad sy'n berthnasol i'r gwasanaeth
  • Yn amlygu cyflawniadau o ran datblygu canllawiau safonau/gweithdrefnau gofal
  • Yn amlygu gwaith tîm effeithiol
  • Y defnydd o sgiliau TG
Meini prawf dymunol
  • Yn amlygu profiad o ymchwil ac archwilio
  • Profiad ym maes Archwilio Clinigol

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Stonewall Diversity ChampionDisability confident employerStonewall equality policy. Equality and justice for lesbians, gay men, bisexual and trans people.Carer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Andrew Littlejohns
Teitl y swydd
Senior Nurse
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
07890918394
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg