Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Gweinyddwr Llwybr Sgrinio
Band 3
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru
Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru
Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, LinkedIn and Instagram
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Mae deiliad y swydd yn gyfrifol am weithio fel gweinyddwr i gefnogi gweithrediad effeithlon swyddogaethau galw/ail-alw a di-feth yr Is-adran Sgrinio.
Bydd deiliad y swydd yn cefnogi gofynion gweinyddol rhaglenni sgrinio yn y rhanbarth. Amlinellir y prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau isod ar gyfer rhaglen sgrinio benodol ac mae'r gofynion cymhwysedd yn angenrheidiol i fodloni dyletswyddau a chyfrifoldebau pob rhaglen sgrinio.
Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd weithredu'r system wybodaeth er mwyn prosesu gwahoddiadau, apwyntiadau a chanlyniadau yn gywir yn unol â pholisïau a gweithdrefnau'r rhaglen. Bydd angen i ddeiliad y swydd fod yn rhan o'r broses ddilysu i sicrhau bod cyfranogwyr yn cael eu rheoli'n briodol a byddant yn gyfrifol am gofnodi gwybodaeth wedi'i chodio'n gywir a diweddaru systemau data a llaw a rhai cyfrifiadurol sy'n ymwneud â chanlyniadau a deilliannau i gleifion. Bydd deiliad y swydd hefyd yn bwynt cyswllt cyntaf i gyfranogwyr sy'n dymuno newid eu hapwyntiad sgrinio a/neu'r rhai y mae ganddynt ymholiadau cyffredinol mewn perthynas a'r broses sgrinio.
Mae'r swydd barhaol hon yn 33.75 awr yr wythnos.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae Sgrinio Serfigol Cymru (SSC) /Rhaglen Sgrinio Ymlediadau Aortig Abdomenol Cymru (WAAASP) yn chwilio am Weinyddwr Llwybr Sgrinio llawn amser cymhelliant a chymwys. Byddwch yn rhoi cymorth gweinyddol cynhwysfawr a gwasanaeth cwsmeriaid gwych mewn amgylchedd prysur, sensitif.
Rhaid i chi feddu ar brofiad gweinyddol blaenorol mewn amgylchedd gwasanaeth cwsmeriaid a sgiliau cyfathrebu rhagorol. Rhaid i chi hefyd ddangos sgiliau trefnu gwych a gallu gweithio dan bwysau, blaenoriaethu llwythi gwaith a gweithio o fewn terfynau amser. Mae'r gallu i weithio'n llwyddiannus fel rhan o dîm yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.
Mae'r prif ddyletswyddau'n cynnwys cyflwyno'r holl raglenni a reolir gan Sgrinio Serfigol Cymru (SSC) a Rhaglen Sgrinio Ymlediadau Aortig Abdomenol Cymru (WAAASP) yn effeithiol drwy sicrhau gweithrediad effeithlon y System Sgrinio Serfigol galw/ailalw a swyddogaethau di-feth, gan gynnal cofnodion cleientiaid, ar gyfer cyfranogwyr SSC a WAAASP a chysylltu â chysylltiadau mewnol ac allanol. Bydd deiliad y swydd yn cynnig cyngor a chymorth mewn ffordd broffesiynol a sensitif i'r holl gyfranogwyr sgrinio
Mae hon yn rôl brysur ac mae sylw i fanylion yn hanfodol, bydd angen i chi feddu ar ddull hyblyg o ran gwaith a gallu cynnal cywirdeb wrth ymdrin â llawer o darfu.
Mae gwybodaeth ymarferol am becynnau Microsoft gan gynnwys Word, Outlook ac Excel yn ofynnol.
Gweithio i'n sefydliad
Iechyd Cyhoeddus Cymru yw Sefydliad Iechyd y Cyhoedd cenedlaethol Cymru. Ein gweledigaeth yw ‘Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru’. Rydym yn chwarae rhan ganolog mewn ysgogi gwelliannau o ran iechyd a llesiant y boblogaeth, lleihau anghydraddoldebau iechyd, gwella canlyniadau gofal iechyd, diogelu'r cyhoedd a chefnogi datblygiad iechyd ym mhob polisi ledled Cymru.
Caiff ein sefydliad ei arwain gan ein gwerthoedd “Cydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth”. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chan y rhai sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.
I gael rhagor o wybodaeth am weithio i ni, y buddion a gynigiwn a'r arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch I https://icc.gig.cymru/gweithio-i-ni/gwybodaeth-a-chanllawiau-i-ymgeiswyr/
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
CYMWYSTERAU
Meini prawf hanfodol
- O leiaf 5 TGAU neu brofiad cyfatebol
- NVQ 3 (neu gyfatebol) mewn Gweinyddiaeth Fusnes/Gofal Cwsmeriaid neu barodrwydd i weithio tuag at un ohonynt
Meini prawf dymunol
- ECDL neu gymhwyster TG cysylltiedig arall
GWYBODAETH
Meini prawf hanfodol
- Dealltwriaeth dda o swyddogaethau gweinyddol a chymwysiadau TG
Meini prawf dymunol
- Dealltwriaeth o Raglenni Sgrinio
- Dealltwriaeth o derminoleg feddygol berthnasol
NOWEDDION PERSONOL
Meini prawf hanfodol
- Yn gallu canolbwyntio wrth ymdrin ag ymyriadau
- Dull hyblyg ac addasadwy iawn wrth flaenoriaethu anghenion y Gwasanaeth
- Brwdfrydig iawn
- Dull rhesymegol a threfnus
- Sgiliau rheoli amser da
- Brwdfrydig ac ymrwymedig
SGILIAU
Meini prawf hanfodol
- Lefel dda o sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu
- Yn gallu ymdrin â sefyllfaoedd anodd a sensitif
- Yn gallu blaenoriaethu gwaith a defnyddio’ch menter eich hun a gweithio heb oruchwyliaeth uniongyrchol
- Chwaraewr tîm
- Safon dda o sgiliau bysellfwrdd
- Sgiliau ffôn rhagorol a sgiliau ysgrifenedig da
- Yn gallu newid rhwng tasgau wrth ymateb i ymyriadau parhaus
PROFIAD
Meini prawf hanfodol
- Profiad gweinyddol blaenorol mewn amgylchedd gwasanaeth cwsmeriaid
- Yn gallu gweithio gyda phobl ar bob lefel
- Yn gallu arddangos profiad o weithio i amserlenni tyn ac o dan bwysau
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio mewn amgylchedd gwasanaeth iechyd
ARRALL
Meini prawf hanfodol
- Yn barod i deithio
- Siaradwr Cymraeg
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Donna Smith
- Teitl y swydd
- Screening Pathway Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01792 940921
Rhestr swyddi gyda Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector