Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Dadansoddwr Busnes er budd
Gradd
Gradd 7
Contract
18 mis (Er bod y swydd hon wedi'i hysbysebu fel penodiad cyfnod penodol, bydd staff y GIG yn cael cynnig y penodiad fel secondiad. Os dymunwch wneud cais am secondiad, rhaid i chi gael cymeradwyaeth eich rheolwr llinell. Gellir ymestyn y swydd hon neu ei gwneud yn barhaol ar ddiwedd y cyfnod penodol/cyfnod secondiad yn dibynnu ar y cyllid sydd ar gael ac anghenion busnes.)
Oriau
  • Llawnamser
  • Gweithio hyblyg
37.5 awr yr wythnos (Model gweithio ystwyth i ganiatáu hyblygrwydd rhwng gweithio gartref a gweithio yn y swyddfa.)
Cyfeirnod y swydd
082-AC030-0524
Cyflogwr
Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ty Dysgu
Tref
Caerdydd
Cyflog
£44,398 - £50,807 Y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
23/05/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) logo

Dadansoddwr Busnes er budd Trawsnewid

Gradd 7

 

 

Trosolwg o'r swydd

Dadansoddwr Busnes er budd Trawsnewid hon yn darparu gwasanaethau dadansoddi busnes i brosiectau a thimau o fewn AaGIC. Bydd y Dadansoddwr Busnes fel arfer yn gweithio ar lawer o aseiniadau ar y cyd; byddant yn amrywio o ran maint a chymhlethdod a’r pecynnau gwaith yn amrywio o ran hyd, rhai’n para ychydig wythnosau ac eraill i’w cynnal dros gyfnod o fisoedd.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Prif ddyletswyddau'r swydd

  • Bydd y rôl hon yn darparu gwasanaethau dadansoddi busnes i brosiectau a thimau o fewn AaGIC. Bydd y Dadansoddwr Busnes fel arfer yn gweithio ar lawer o aseiniadau ar y cyd; byddant yn amrywio o ran maint a chymhlethdod a’r pecynnau gwaith yn amrywio o ran hyd, rhai’n para ychydig wythnosau ac eraill i’w cynnal dros gyfnod o fisoedd.
  • Ffocws y swyddogaeth Dadansoddi Busnes yw pennu gofynion/anghenion rhanddeiliaid, a all fod yn dechnegol eu natur, gan eu diffinio a’u dogfennu’n glir. Fodd bynnag, mae hon yn rôl ‘cylch oes cyflawn’ a fydd o bosibl yn rhychwantu datblygiad achosion busnes hyd at eu hadolygiad gweithredol o ran pennu anghenion, dylunio, datblygu, profi a gweithredu.
  • Bydd y Dadansoddwr Busnes hefyd yn cynorthwyo defnyddwyr yn ystod y broses o draddodi’r rhaglen ac yn ystod y cyfnod ‘busnes fel arfer’. Rhaid cofio y bydd pontio gweithrediadau busnes yn orchwyl ailadroddol drwy gydol oes y rhaglen a thu hwnt.

Gweithio i'n sefydliad

Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yw'r corff gweithlu strategol ar gyfer GIG Cymru sydd â swyddogaethau statudol sy'n cynnwys addysg a hyfforddiant, cynllunio'r gweithlu, datblygu a thrawsnewid y gweithlu, arweinyddiaeth a chynllunio olyniaeth, a gyrfaoedd.  Ein diben yw datblygu gweithlu sy'n darparu gofal rhagorol i gleifion/defnyddwyr gwasanaethau ac iechyd rhagorol yn y boblogaeth. Rydym yn Awdurdod Iechyd Arbennig sy'n gweithio'n agos gyda'n partneriaid; Gofal Cymdeithasol Cymru, darparwyr addysg, cyrff proffesiynol a rheoleiddiol a Llywodraeth Cymru.

 

Mae AaGIC wedi ymrwymo i ddatblygu diwylliant mewnol o ddewis. Mae ein Gwerthoedd yn adlewyrchu ein meddyliau, ein teimladau a'n credoau o ran sut y byddwn, ac na fyddwn, yn ymddwyn ac yn trin eraill:

- Parch i Bawb ym mhob cyswllt sydd gennym ag eraill,

- Syniadau sy'n Gwella: Harneisio creadigrwydd ac arloesi, gwerthuso a gwella'n barhaus,

- Gyda'n Gilydd fel Tîm

 

Derbyniodd AaGIC Wobr HPMA ar gyfer Ymgysylltu â Gweithwyr yn 2019.

 

Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl:

- cyfnod ymsefydlu corfforaethol ag amserlen Croeso 90 diwrnod,

- arweinyddiaeth dosturiol,

- proses arfarnu perfformiad ystyrlon sy'n seiliedig ar werthoedd,

- y cyfle i effeithio ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a bywydau a lles pobl Cymru.

 

Mae llawer o'n cydweithwyr a'n rhanddeiliaid wedi gwneud sylwadau ar y cyffro a'r awyrgylch a olygwn drwy gydweithio fel "Un Tîm AaGIC". Ydych chi am ymuno â'r tîm hwnnw?

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Addysgedig ar lefel Meistr (neu’n meddu ar gymhwyster / profiad cyfatebol).
  • Ymwybyddiaeth o werth unigryw AaGIC a’r modd y mae’n cynorthwyo’r GIG.
  • Cynefindra ag offer modelu, mapio prosesau ac offer dadansoddi (e.e. Enterprise Architect), dulliau a safonau (e.e. UML, BPMN).
  • Gwybodaeth fanwl a thrylwyr am dechnegau modelu busnes a phrofiad o gaffael canlyniadau modelu a’u mynegi i uwch-reolwyr i sicrhau eu cydwelediad.
  • Gwybodaeth am brosesau a dulliau hwyluso busnes i ddeall effaith newidiadau arfaethedig a’r modd y mae prosesau, systemau, strwythurau, data a rolau a chyfrifoldebau busnes oll yn rhyngweithio â'i gilydd.
  • Hyfedredd TG ar lefel arbenigol (Microsoft).
Meini prawf dymunol
  • Meddu ar gymhwyster proffesiynol Dadansoddi Busnes cydnabyddedig (neu’n ymgyrraedd at gymhwyster o’r fath), megis Diploma Rhyngwladol BCS mewn Dadansoddi Busnes.
  • Gwybodaeth weithredol am y GIG a datblygiadau cenedlaethol a mentrau polisi.
  • Dealltwriaeth a gwybodaeth am derminoleg a gofynion gwybodaeth y gwasanaeth iechyd.
  • Dealltwriaeth o brosesau datblygu a sicrwydd Gwybodeg GIG Cymru, gan gynnwys Proses Sicrwydd Safonau Gwybodaeth GIG Cymru.

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad sylweddol o ysgwyddo rôl gwybodaeth/dadansoddwr.
  • Profiad o weithredu amrywiaeth o dechnegau dadansoddol mewn perthynas â gwybodaeth a mesur uniondeb y canlyniadau’n seiliedig ar asesiad o’r ffynonellau a’r technegau a ddefnyddir.
  • Profiad o weithgareddau a thechnegau ymgynghori gan gynnwys hwyluso grwpiau rhanddeiliaid.
  • Profiad o ddadansoddi, asesu a newid prosesau, gan gynnwys ffactorau ariannol, diwylliannol, technolegol, sefydliadol ac amgylcheddol.
  • Profiad pellach o bennu gofynion cwsmeriaid gan ddynodi sut maent yn cydgysylltu â gofynion prosesau.
  • Arbenigedd o ran gweithredu technegau, dulliau ac offer Dadansoddi Busnes; profiad o weithredu technegau, dulliau ac offer Dadansoddi Busnes yn ogystal â gwella’u cymhwysiad.
Meini prawf dymunol
  • Profiad blaenorol yn y sector cyhoeddus.
  • Dealltwriaeth o ofynion Gwybodaeth a TG clinigol/gweinyddol y GIG.

Sgiliau a Phriodoleddau

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i gyfathrebu â staff hyd at lefel uwch ynghylch prosesau busnes neu brosesau clinigol cymhleth.
  • Y gallu i feistroli technolegau a systemau TG newydd yn gyflym trwy gyfrwng cyrsiau hyfforddiant arbenigol a hunanastudiaeth.
  • Y gallu i drefnu’ch gwaith eich hun yn effeithiol a gweithio ar eich liwt eich hun.
  • Y gallu i hyfforddi a mentora eraill. Rheoli datblygiad proffesiynol staff.
  • Y gallu i fod yn wrandäwr gweithredol ac i deilwra dulliau o gyfathrebu i'r gynulleidfa.
  • Y gallu i gynllunio, dogfennu a blaenoriaethu’ch baich gwaith eich hun ac aelodau staff eraill mewn modd rhagweithiol.
Meini prawf dymunol
  • Ymwybyddiaeth o sgiliau dylunio cronfeydd data perthynol ac SQL.
  • Ymwybyddiaeth o feddalwedd adrodd ar gyfer Cronfeydd Data.
  • Profiad neu gymwysterau sy’n meithrin sgiliau rheoli prosiectau (PRINCE 2/Agile). Mae sgiliau Iaith Gymraeg yn ddymunol – lefelau 1 i 5 o ran deall, siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg.

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Ymagwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Stonewall Hyrwyddwr Amrywiaeth Diversity ChampionDisability confident committedDying to Work CharterERS Silver Banner WelshEmployer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental health

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Abby Forster
Teitl y swydd
Head of Digital Transformation
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg