Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gwelliant Cymru
Gradd
Band 7
Contract
12 mis (Secondiad tan 01/04/2025)
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun - Dydd Gwener)
Cyfeirnod y swydd
028-AC144-0524
Cyflogwr
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
CQ2
Tref
Caerdydd
Cyflog
£44,398 - £50,807 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
21/05/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru logo

Rheolwr Gwella

Band 7

Croeso i Weithrediaeth GIG Cymru, swyddogaeth gymorth genedlaethol newydd, yn weithredol o 1 Ebrill 2023

Ein pwrpas allweddol yw...

Ysgogi gwelliannau yn ansawdd a diogelwch gofal - gan arwain at ganlyniadau gwell a thecach, mynediad a phrofiad y claf, llai o amrywiad, a gwelliannau yn iechyd y boblogaeth.

 I gael gwybod mwy, ewch i Weithrediaeth GIG Cymru.

 Ein Gwerthoedd

Gweithio gyda'n gilydd, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth

Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

Trosolwg o'r swydd

Noder mai dim ond ceisiadau gan staff a gyflogir gan gig Cymru ar hyn o bryd y byddwn yn eu derbyn.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymgeisio am y swydd hon ar secondiad, bydd yn rhaid i chi gael caniatâd gan eich rheolwr presennol cyn i chi wneud cais.

Hoffech Chi Chwarae Rhan Allweddol Wrth Wella Diogelwch Cleifion Ar Draws GIG Cymru?

Mae hwn yn gyfle i fod yn rhan o’n tîm yng nghyfarwyddiaeth Ansawdd, Diogelwch a Gwella newydd Gweithrediaeth GIG Cymru ar adeg brysur a chyffrous wrth i ni gynyddu ein cefnogaeth i helpu GIG Cymru i wella gofal i bobl Cymru.

Mae Gwelliant Cymru yn rhan greiddiol o'r gyfarwyddiaeth hon. Gyda’n gilydd, rydym yn gweithio ochr yn ochr â sefydliadau i rymuso, gwreiddio a dyrchafu gwelliannau i ansawdd a diogelwch, gan ddarparu rhaglenni gwella Cymru gyfan er mwyn cyflawni blaenoriaethau ansawdd a diogelwch. Ceir disgrifiad o’n gwaith yn ein strategaeth Gwelliant Cymru a gyhoeddwyd yn 2021.

Rydym yn recriwtio i 1 swydd secondiad amser llawn yng Nghaerdydd. Mae'r secondiad tan 01/04/25.

Mae'r swyddi hyn yn cynnig cyfle i fod yn rhan o Welliant Cymru ar adeg brysur a chyffrous wrth inni wneud y canlynol:

  • Gweithio gyda GIG Cymru i ddatblygu ein rhaglen Gofal Diogel Gyda’n Gilydd.

Lansio ein Cydweithredfa Gofal Diogel cenedlaethol mewn partneriaeth â’r 

  • sefydliad Gwella Gofal Iechyd, Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau, a fydd yn tan 2024.
  • Gweithio gydag arbenigwyr gwelliant byd-eang, Llywodraeth Cymru a chydweithwyr ar draws GIG Cymru.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Byddwch yn ymuno â thîm uchelgeisiol, sy’n cynnwys rhai o'r gweithwyr Gwelliant proffesiynol mwyaf cymwys a phrofiadol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Fel rhan o’n cyfeiriad newydd, rydym yn awyddus i gryfhau ein tîm trwy recriwtio aelodau tîm newydd o gefndiroedd amrywiol gyda chymysgedd o sgiliau, personoliaethau a phrofiadau – gan ystyried ymgeiswyr a chanddynt gefndir yn y GIG yn ogystal â sectorau eraill.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu dyrannu i dîm rhanbarthol y De-ddwyrain o fewn Rhaglenni, ond gyda chyfleoedd parhaus i waith matrics gyda thimau a phrosiectau Gwelliant Cymru eraill. Mae gan bob swydd gyfrifoldebau cenedlaethol a bydd y gallu i deithio ledled Cymru, gan gynnwys aros dros nos, yn angenrheidiol i bob deiliad swydd.

Anogir ymgeiswyr sydd â diddordeb i gysylltu â'r rheolwr sy’n recriwtio ar gyfer y rôl a enwir isod i drafod y rôl ymhellach os oes ganddynt unrhyw ymholiadau.

 

Gweithio i'n sefydliad

Mae Gweithrediaeth GIG Cymru yn darparu arweiniad canolog, gan weithio mewn partneriaeth ar gyfer ac ar ran Llywodraeth Cymru, yn y GIG yng Nghymru a gyda'r GIG. Mae'r Weithrediaeth yn cael ei chynnal gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Rydym yn swyddogaeth gefnogaeth genedlaethol sy'n cyflawni gweledigaeth 'Cymru Iachach' o ddull system gyfan o ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol rhagorol ledled Cymru.

Rôl y Weithrediaeth wrth gefnogi'r weledigaeth hon yw darparu arweinyddiaeth genedlaethol gref a chyfeiriad strategol sy'n galluogi, cefnogi a, phan fo angen, ymyrryd i sicrhau bod blaenoriaethau a safonau cenedlaethol yn cael eu cyflawni, er mwyn gwella ansawdd a diogelwch gofal. Bydd y Weithrediaeth yn ysgogi gwelliannau i sicrhau canlyniadau gofal iechyd gwell a thecach i bobl Cymru.

Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.  Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chan y rhai sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.

Mae ein sefydliad yn cael ei arwain gan Werthoedd Iechyd Cyhoeddus Cymru, “Cydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth”.

I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Addysg hyd at lefel gradd neu brofiad cyfwerth mewn rôl reoli
  • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
  • Wedi cwblhau hyfforddiant gwella/ymgymryd â hyfforddiant gwella’n flaenorol
Meini prawf dymunol
  • Ardystiad gwella (Gwelliant mewn Ymarfer, y Sefydliad Gwella Gofal Iechyd (IHI), Lean ac ati)
  • Cymhwyster rheoli prosiectau
  • Cymhwyster darparu hyfforddiant
  • Cymhwyster hyfforddi, fel ILM

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Ymgysylltu â grwpiau amlbroffesiynol a staff ar bob lefe
  • Profiad o goetsio unigolion neu dimau
  • Profiad o gyflwyno a hwyluso gyda grwpiau amlbroffesiynol
  • Profiad o weithredu gwelliannau a sbardunir gan brosiectau yn llwyddiannus, gyda thystiolaeth o ddysgu gan ddefnyddio methodolegau gwyddoniaeth gwella

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i ysgogi pobl eraill er mwyn annog gweithio ar y cyd
  • Y gallu i gydweithio â phobl o ddisgyblaethau eraill a ffurfio perthnasoedd cryf â rhanddeiliaid i wella gwasanaethau
  • Y gallu i gasglu, dadansoddi a chyflwyno data cymhleth i ddylanwadu ar benderfyniadau a wneir i wella gwasanaethau
  • Y gallu i ganfod datrysiadau mewn sefyllfaoedd cymhleth sy’n dderbyniol i nifer o randdeiliaid
  • Y gallu i gymhwyso gwybodaeth a sgiliau gwella
Meini prawf dymunol
  • Dangos y gallu i weithredu fel cyfeirbwynt arbenigol ar faterion hyfforddi yn ymwneud â rheoli newid a gwelliant parhaus.
  • Y gallu i hyfforddi grwpiau amlddisgyblaethol, gan gynnwys staff clinigol, ar fethodolegau gwelliant parhaus.

Nodweddion Personol

Meini prawf hanfodol
  • Deall pwysigrwydd bod yn aelod cryf o dîm, sy’n cynnwys: o Cyfranogi’n weithredol o Cydweithredu o Parchu a chefnogi pobl eraill
  • Tystiolaeth o archwilio datrysiadau amgen i broblemau yn barhaus
  • Ymrwymiad i hunanddatblygiad, gan gymryd camau pendant i geisio adborth a dysgu
  • Y gallu i ganolbwyntio a chwblhau tasgau’n gywir o fewn amserlenni a roddwyd ar yr un pryd â delio ag ymyriadau annisgwyl e.e. blaenoriaethau sy’n newid
  • Y gallu i fodloni anghenion teithio mynych y swydd. (Bydd yn ofynnol i ddeilydd y swydd deithio i unrhyw leoliad ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig, fel y bo’r angen gan y sefydliad, a gallai hyn olygu aros dros nos oddi cartref yn aml)
  • Hyblyg i fodloni anghenion y gwasanaeth.
Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Final Gold LevelDisability confident leaderStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Final Gold Level WelshRefugee Employment NetworkStep into healthHappy to Talk Flexible WorkingArmed Forces CovenantStonewall Top 100 Employers in 2023Employer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principlesPrentisiaethau Apprenticeships

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Mark Wilson
Teitl y swydd
Senior Improvement Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg