Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Microbioleg
Gradd
Gradd 4
Contract
Cyfnod Penodol: 11 mis (To Meet Service Needs)
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (9am - 5pm, bum diwrnod yr wythnos, o ddydd Llun i ddydd Gwener)
Cyfeirnod y swydd
028-AC143-0524
Cyflogwr
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
2 Capital Quarter
Tref
Caerdydd,
Cyflog
£25,524 - £28,010 Y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
20/05/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru logo

Cynorthwyydd Personol i’r Pennaeth Cyfathrebu/Uwch Swyddog Gweinyddu

Gradd 4

 

Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru

Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru

Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sy’n rhannu ein gwerthoedd o Gydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth

Dilynwch ni ar TwitterFacebook, LinkedIn and Instagram

Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

 


Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle gwych wedi codi i Ysgrifennydd Personol brwdfrydig a phrofiadol ymuno â Thîm Microbioleg Gogledd Cymru.

Mae Microbioleg Gogledd Cymru yn darparu ystod eang o wasanaethau diagnostig i ysbytai, clinigau a meddygon teulu ledled Gogledd Cymru. Mae gan y gwasanaeth labordy canolog (hyb) mewn adeilad patholeg newydd yn Ysbyty Glan Clwyd  (Bodelwyddan) ac mae ganddo labordai lloeren gwasanaethau acíwt yn Ysbyty Gwynedd (Bangor) ac Ysbyty Maelor (Wrecsam). Bydd y swydd hon wedi’i lleoli yn bennaf yn y labordy yn Ysbyty Glan Clwyd, ond gallai fod gofyn i ddeiliad y swydd gefnogi cydweithwyr yn labordai Bangor a Wrecsam pan fo angen. 

Mae Gogledd Cymru yn elwa o fod o fewn cyrraedd yr arfordir a’r mynyddoedd, ac yn agos at ddinasoedd Lerpwl a Chaer a phopeth sydd gan fywyd y ddinas i’w gynnig – felly mae’n apelio at gerddwyr, dringwyr, seiclwyr, morwyr, siopwyr a’r rhai sy’n hoff o gymdeithasu gyda’r nos; mae yna rywbeth at ddant pawb. Mae gan Ogledd Cymru hefyd dai fforddiadwy a chysylltiadau ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus da ar draws Cymru i Loegr ac ymhellach i ffwrdd – ac mae’n daith fer mewn cwch i ffwrdd o Iwerddon.  

Rydym yn annog ac yn croesawu ymweliadau anffurfiol, dewch i weld y labordy a chwrdd â’r tîm.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon ond nid yw’n hanfodol; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg ymgeisio fel ei gilydd.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio fel rhan o’r Tîm Microbioleg wedi’i leoli yn ein Labordy ym Rhyl,  Ysbyty Glan Clwyd yn darparu cymorth gweinyddol o fewn y tîm.  Yn bennaf bydd y rôl hon yn cefnogi'r Arweinydd Hyfforddi a'r Arweinydd Ansawdd.  Bydd y rol hefyd cefnogi to tim clinigol.

Rhaid i ymgeiswyr allu dangos sylw brwd i fanylion, sgiliau gweinyddu, trefnu a chyfathrebu rhagorol a’r gallu i weithio’n annibynnol.

Gweithio i'n sefydliad

Ni yw Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 

Gyda'i gilydd, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Nid yw iechyd cyhoeddus erioed wedi bod mor bwysig wrth i ni ddod drwy bandemig y Coronafeirws, wynebu heriau'r argyfwng costau byw a mynd i'r afael ac atal effeithiau niweidiol newid hinsawdd.

Caiff ein sefydliad ei arwain gan ein gwerthoedd 'Cydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth'. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.  Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chan y rhai sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.

I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • RSA lefel III, NVQ Lefel 3 Gweinyddu Busnes neu brofiad cyfwerth • ECDL neu brofiad cyfwerth.
Meini prawf dymunol
  • ECDL Uwch

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Tystiolaeth o brofiad blaenorol yn gweithio fel Cynorthwyydd Personol neu gyfwerth. Profiad o ddelio â data cyfrinachol a sensitif ac o gadw a storio cofnodion yn briodol. Cymryd cofnodion. Profiad o weithio’n annibynnol.
Meini prawf dymunol
  • Profiad goruchwylio. Clywdeipio. Gweithio mewn amgylchedd GIG

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau cynllunio a threfnu. Sgiliau bysellfwrdd uwch gyda phrofiad blaenorol o greu adroddiadau, taenlenni a gohebiaeth.
Meini prawf dymunol
  • Gallu siarad Cymraeg neu barodrwydd i ddysgu.

Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth weithredol am raglenni MS Office. Ymwybyddiaeth o bolisïau a gweithdrefnau mewn perthynas â delio â data cyfrinachol personol a sefydliadol. Dealltwriaeth drylwyr o weithdrefnau ysgrifenyddol. Gwybodaeth weithredol am systemau ffeilio/data gan gynnwys rheoli cofnodion. Gwybodaeth am weithdrefnau gweinyddol a sefydliadol, wedi’u caffael drwy hyfforddiant a phrofiad perthnasol.
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth am Iechyd Cyhoeddus Cymru

Nodweddion personol

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i weithio i derfynau amser ac o dan bwysau. Yn gallu gweithio mewn tîm. Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun. Prydlondeb. Parchu cyfrinachedd. Parodrwydd i ddysgu a datblygu sgiliau.
Meini prawf dymunol
  • Datblygiad Personol Parhaus

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Final Gold LevelDisability confident leaderStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Final Gold Level WelshRefugee Employment NetworkStep into healthHappy to Talk Flexible WorkingArmed Forces CovenantStonewall Top 100 Employers in 2023Employer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principlesPrentisiaethau Apprenticeships

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Leah Morantz
Teitl y swydd
Head of Communications
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg