Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol
Gradd
Gradd 8C
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos (3 diwrnod yr wythnos)
Cyfeirnod y swydd
050-PST073-0424
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Bron Hendre
Tref
Caernarfon
Cyflog
£71,473 - £82,355 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
28/05/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol

Gradd 8C

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Dyma gyfle prin i Seicolegydd Clinigol ymuno â’n gwasanaethau anabledd plant cyfeillgar a chefnogol fel eu Hymgynghorydd. Byddant yn gweithio i mewn i dimau iechyd a gofal cymdeithasol integredig Gwynedd ac Ynys Môn sy'n darparu asesiadau ac ymyriadau therapiwtig i blant a phobl ifanc ag anableddau dysgu, eu teuluoedd a'u gofalwyr. Mae hon yn rôl allweddol, gan gyfrannu at feddwl seicolegol y timau, a darparu ymyriadau uniongyrchol ac anuniongyrchol i blant a'u teuluoedd â'r anghenion mwyaf cymhleth. Sgiliau uwch mewn asesu, llunio, ymyrryd a gwerthuso; ynghyd â goruchwyliaeth, hyfforddiant ac ymgynghori yn hollbwysig.

Rydym yn chwilio am arweinydd clinigol hynod brofiadol ac angerddol i fwrw ymlaen ag arweinyddiaeth seicolegol yn lleol, gan gyfrannu hefyd at ddatblygiadau yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. Byddant yn gweithio gyda'r tîm arwain i sicrhau darpariaeth gofal seicolegol o ansawdd uchel a gwella gwasanaethau. Rydym yn gwerthfawrogi gweithio’n agos gyda gwasanaethau niwroddatblygiadol ac iechyd meddwl lleol i blant a’r glasoed, a’n partneriaid amlasiantaethol.

Bydd ganddynt brofiad sylweddol o ddarparu arweinyddiaeth effeithiol a thosturiol, a byddant yn gallu ysbrydoli a chefnogi eraill ar bob cam o ddatblygiad gyrfa, a hyrwyddo diwylliant o ddysgu ac arloesi. Byddant yn ymuno â gwasanaeth sy'n cyfrannu at welliant, datblygiad ac arloesedd ar draws Gogledd Cymru.

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Cyfrifoldeb arweiniol am benderfyniadau clinigol sy'n gofyn am ddadansoddi, dehongli a chymharu opsiynau

Darparu gwasanaeth seicoleg glinigol arbenigol iawn i gleientiaid

Gweithio'n annibynnol yn unol â Chod Ymddygiad, Egwyddorion a Chanllawiau Moesegol 2004 y BPS, a HCPC.

Cyfrifoldeb dirprwyedig, mewn ymgynghoriad â Phennaeth Seicoleg Plant, dros arweinyddiaeth broffesiynol, cynllunio, darparu ac adolygu Gwasanaethau Seicoleg Clinigol Plant BIPBC.

Bod yn atebol am weithredoedd a phenderfyniadau proffesiynol eich hun.

Mewn cydweithrediad â’r Pennaeth Seicoleg Plant, dyfeisio, datblygu, dehongli a gweithredu polisïau a datblygiadau gwasanaeth penodol, datblygu darpariaeth therapi seicolegol a sicrhau bod prosesau llywodraethiant clinigol yn cael eu gweithredu

Cynnal llwyth achosion clinigol arbenigol iawn o gleientiaid ag anghenion cymhleth.

Darparu goruchwyliaeth glinigol i gydweithwyr amlddisgyblaethol.

Darparu cyngor ac ymgynghoriaeth arbenigol iawn ar faterion Seicoleg Plant

Sicrhau darpariaeth lleoliadau clinigol plant ar gyfer hyfforddeion doethurol Rhaglen Seicoleg Glinigol Gogledd Cymru (NWCPP) a darparu lleoliadau dan oruchwyliaeth.

Darparu addysgu a hyfforddiant ar gyfer staff amlddisgyblaethol BIPBC ac ar gyfer NWCPP.

Defnyddio sgiliau ymchwil tra arbenigol ar gyfer archwilio, polisi, datblygu gwasanaethau ac ymchwil.

Cyfrifoldeb ar y cyd â Phennaeth Seicoleg Plant, am recriwtio seicolegwyr clinigol

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd Ddisgrifiad llawn a Manyleb Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais ar-lein nawr” i'w gweld yn Trac

 

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Manyleb y person

Cymwysterau/Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cymhwyster Doethurol ôl-raddedig mewn Seicoleg Glinigol (neu gymhwyster cyfatebol ar gyfer y rhai a hyfforddwyd cyn 1996 neu'r rhai a hyfforddwyd dramor), fel sy’n cael ei achredu gan y BPS
  • Wedi cofrestru gyda'r HCPC fel Seicolegydd Clinigol
  • Hyfforddiant goruchwyliaeth glinigol ar gyfer goruchwylio hyfforddeion Doethurol.
  • Hyfforddiant ffurfiol ar reoli ac arweinyddiaeth iechyd
  • Gwybodaeth arbenigol uwch ar lefel doethurol o theori ac ymarfer seicoleg glinigol
  • Gwybodaeth lefel doethurol o ddyluniad a methodoleg ymchwil
  • Mynychu nifer o gyrsiau ôl-raddedig a addysgir ac astudiaeth hunan-gyfeiriedig dan oruchwyliaeth mewn maes arbenigol
  • Gwybodaeth am ddeddfwriaeth berthnasol a'i goblygiadau
  • Tystiolaeth o DPP fel yr argymhellir gan y BPS a HCPC
Meini prawf dymunol
  • Hyfforddiant ôl-ddoethuriaeth mewn un neu fwy o feysydd arbenigol ychwanegol o arferion seicolegol.
  • Gwybodaeth o theori ac arfer therapïau seicolegol arbenigol wedi'i ddatblygu'n fawr mewn grwpiau penodol sy’n anodd eu trin (e.e. anhwylder personoliaeth, diagnosisau deuol, pobl ag anableddau ychwanegol ac ymddygiadau hynod o heriol ayb.)
  • Achrediad ffurfiol mewn un neu fwy o therapïau seicolegol e.e. CBT, DBT, IPT-A.
  • Cymhwyster cydnabyddedig mewn goruchwylio
  • Gwybodaeth am ddamcaniaethau ac arfer therapïau seicolegol arbenigol a methodoleg asesu
  • Hyfforddiant uwch mewn dylunio a methodoleg ymchwil
  • Cofnod o gyhoeddiadau mewn cyfnodolion a/neu lyfrau academaidd neu broffesiynol sy'n cael eu hadolygu gan gymheiriaid

Hanfodol

Meini prawf hanfodol
  • Yn bodloni gofynion asesu dau Aseswr Cenedlaethol BPS/DoH mewn Seicoleg Glinigol ar gyfer mynediad i Radd Ymgynghorydd
  • Profiad sylweddol fel uwch seicolegydd clinigol cymwys
  • Profiad fel seicolegydd clinigol lefel uwch yn yr arbenigedd dynodedig, neu sgiliau trosglwyddadwy perthnasol
  • Hyfforddiant/profiad arbenigol pellach
  • Profiad o asesu a thrin seicolegol tra arbenigol
  • Profiad helaeth o weithio gyda grwpiau cleientiaid ar draws ystod gynyddol o ddifrifoldeb clinigol
  • Profiad helaeth o arfer cyfrifoldeb clinigol llawn am ofal seicolegol cleientiaid
  • Profiad helaeth o addysgu, hyfforddi a/neu oruchwyliaeth broffesiynol a chlinigol
Meini prawf dymunol
  • Profiad o ddefnyddio seicoleg glinigol mewn gwahanol gyd-destunau diwylliannol.
  • Profiad o gynrychioli seicoleg o fewn cyd-destun gofal amlddisgyblaethol
  • Profiad o reoli seicolegwyr clinigol cymwys a staff eraill yn broffesiynol
  • Siaradwr Cymraeg

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Natalie Woodworth
Teitl y swydd
Service Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000851641
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Caroline Jones - Head of Child Psychology - West IHC

07966 514 490

[email protected]

 

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg